Anoddefiadau

Mae yna ystod eang o anoddefiadau bwyd megis alergedd i gnau, glwten, wyau a llaeth. Fel gwasanaeth i’n cwsmeriaid, rydyn ni’n cyhoeddi’r wybodaeth hon i’ch helpu i ateb rhai o’u cwestiynau.

Diabetes

Mae pobl sy’n dioddef o ddiabetes naill ai ddim yn cynhyrchu digon o inswlin, neu nid yw’r inswlin y maen nhw’n yn ei gynhyrchu yn gweithio’n gywir ac o ganlyniad mae gormod o siwgr yn eu gwaed.

Mae diet cytbwys iach yn allweddol i bobl sy’n dioddef o’r cyflwr hwn. Fel arlwywyr, nid oes yn rhaid eithrio bwydydd na chyfyngu arnynt ond yn hytrach dylid cynhyrchu bwydlenni sy’n cynnig llai o fraster a siwgr a digon o ffrwythau a llysiau er mwyn ei wneud yn haws i bobl ddilyn diet iach pan ydynt yn bwyta allan.

Coeliag

Mae llawer o’r wybodaeth yng ngweddill yr adran hon yn canolbwyntio ar y clefyd coeliag (anoddefiad glwten) oherwydd efallai hwn yw’r clefyd na ddeallir cymaint amdano.

Yn anffodus, nid yw’n bosibl i Fwydydd Castell Howell gynhyrchu rhestr o fwyd y mae’r cwmni yn ei werthu sy’n addas ar gyfer pobl sy’n dioddef o goeliag oherwydd cyflenwyr eraill sy’n darparu’r mwyafrif o’r bwyd i gwsmeriaid, ac felly nid oes gan Fwydydd Castell Howell unrhyw reolaeth dros newid eu ryseitiau.

Fodd bynnag, mae’r wybodaeth addysgol a’r cyngor ymarferol sydd ar gael ar y tudalennau sydd wedi’u rhestru ar y dde yn hynod o ddefnyddiol.

©2009 - Castell Howell Foods Ltd